Gonepteryx rhamni rhamni | |
---|---|
Esiampl wedi'i fframio | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Pieridae |
Genws: | Gonepteryx |
Rhywogaeth: | G. rhamni |
Enw deuenwol | |
Gonepteryx rhamni (Linnaeus, 1758) |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw melyn y rhafnwydd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy melynion y rhafnwydd; yr enw Saesneg yw Brimstone, a'r enw gwyddonol yw Gonepteryx rhamni rhamni. Mae i'w gael yn Ewrop, Gogledd Affrica ac Asia.
Pan mae'n nhw'n cael seibiant nid yw eu hadenydd ar agor.
Mae'r wyau'n cael eu dodwy ar un ddeilen o ddau blanhigyn yn unig, sef y ddau blanhigyn y byddant hefyd yn ei fwyta: Rhamnus cathartica) neu Rhamnus frangula.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r melyn y rhafnwydd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.