Javier Milei | |
---|---|
Javier Milei yn Hydref 2022. | |
Ganwyd | Javier Gerardo Milei 22 Hydref 1970 Buenos Aires |
Man preswyl | Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, doethinebwr |
Swydd | Aelod o Siambr Dirprwyon yr Ariannin, President of La Libertad Avanza (Argentina), Arlywydd yr Ariannin |
Taldra | 1.78 metr |
Plaid Wleidyddol | Liberty Advances, Avanza Libertad, Libertarian Party |
Mudiad | Ceidwadaeth, anarcho-capitalism, Austrian School, Anti-politics, rhyddfrydiaeth economaidd |
Partner | Karina Milei, Fátima Flórez, Lilia Lemoine |
Perthnasau | Rodrigo Lussich |
Gwefan | https://javiermilei.com/ |
llofnod | |
Gwleidydd ac economegydd Archentaidd yw Javier Gerardo Milei (ganed 22 Hydref 1970) a wasanaetha yn Arlywydd yr Ariannin ers 10 Rhagfyr 2023. Mae'n arddel polisïau economaidd rhyddewyllysiol.
Ganed ef yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, a chafodd ei gamdrin yn llafar ac yn gorfforol gan ei rieni yn ystod ei blentyndod. Dioddefai economi'r Ariannin o orchwyddiant yn y 1980au, a phenderfynodd Milei yn ei arddegau i astudio'r pwnc er mwyn deall achosion y drafferth. Derbyniodd ei radd baglor mewn economeg o Brifysgol Belgrano a graddau meistr mewn economeg o'r Instituto de Desarrollo Económico y Social (IDES) a Phrifysgol Torcuato di Tella. Bu'n gysylltiedig â sawl melin drafod a sefydliad academaidd yn yr Ariannin. Treuliodd 21 mlynedd o'i yrfa yn athro ym meysydd macro-economeg, economeg twf, micro-economeg, a mathemateg i economegwyr. Mae wedi cyhoeddi mwy na 50 o erthyglau academaidd. Datblygodd syniadaeth ryddewyllysiol, gan ymlynu ag ysgol feddwl yr "Awstriaid" ac ymyrraeth y llywodraeth yn yr economi. Disgrifia Milei ei hun yn anarcho-gyfalafwr, yn anarchydd y farchnad, ac yn rhyddewyllysiwr rhyddfrydol.
Daeth Milei i'r amlwg o 2016 ymlaen drwy fynegi ei farnau economaidd a gwleidyddol ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol, a daeth yn ffigur hynod o ddadleuol. Câi ei ystyried yn sylwebydd anarferol, gyda steil ecsentrig i'w wallt a thymer ffyrnig, yn brygowthan a rhegi. Bu'n ymosod yn chwyrn ar y llywodraeth a gwleidyddion eraill, gan gyhuddo'r sefydliad gwleidyddol—neu la casta, fel y geilw efe—o lygredigaeth. Denai gefnogaeth oddi ar nifer o Archentwyr, yn enwedig dynion ifanc, sydd wedi'u siomi gan sefyllfaoedd gwleidyddol ac economaidd eu gwlad. Ymaelododd â'r glymblaid Avanza Libertad yn 2020, a fe'i etholwyd i Siambr y Dirprwyon yn 2021. Aeth ati i gyd-sefydlu clymblaid newydd, La Libertad Avanza, â Victoria Villarruel, ac ymgyrchodd y ddau ohonynt ar gyfer yr arlywyddiaeth a'r is-arlywyddiaeth yn etholiad 2023.
Addawodd Milei raglen o ddiwygiadau radicalaidd i bolisïau economaidd, ariannol, a chyllidol yr Ariannin, gan gynnwys gostwng gwariant cyhoeddus 15%, diddymu'r banc canolog, a defnyddio doler yr Unol Daleithiau yn lle'r peso Archentaidd. Er iddo gymryd yr agwedd ryddewyllysiol ar faterion cymdeithasol megis rhyddid yr unigolyn i gymryd cyffuriau, arddelai Milei safbwyntiau ceidwadol ar ambell bwnc, gan gynnwys gwrthwynebu erthyliad ac addysg ryw. Lleisiodd hefyd sawl datganiad dadleuol, er enghraifft cwestiynu'r nifer a fu farw yng nghyfnod y jwnta filwrol, a gwadu cyfrifoldeb y ddynolryw am newid hinsawdd. Mae nifer o sylwebwyr wedi disgrifio Milei yn radicalwr ac yn boblydd, a rhai wedi ei ddisgrifio yn rhan o'r adain dde eithafol, tra bod eraill wedi galw ei ideoleg yn anniffiniadwy.
Mae Milei yn gefnogwr brwd dros drosglwyddo sofraniaeth Ynysoedd y Falklands o'r Deyrnas Unedig i'r Ariannin, gan ddatgan nad yw'r safbwynt hwnnw yn agored i drafodaeth. Fodd bynnag, mae wedi beirniadau'r rhyfel a lansiwyd gan y jwnta ym 1982 i gipio'r ynysoedd, ac yn cydnabod bod rhaid dod i gytundeb â'r Deyrnas Unedig a thrigolion y diriogaeth yn ddiplomyddol.
Nid yw Javier Milei yn briod, ac nid oes plant ganddo. Mae'n berchen ar bum Gafaelgi Seisnig.
O ran ei grefydd, Catholig ydy Milei, er ei fod wedi ymddieithrio i raddau o'r ffydd honno. Mae wedi beirniadu'r Pab Ffransis a'i alw'n "gynrychiolydd y drwg ar y Ddaear". Mae Milei wedi ymddiddordi yn Iddewiaeth, ac wedi mynegi ei fwriad o erfyn ar rabi i'w dderbyn i'r ffydd Iddewig.