Ifor Wyn Williams | |
---|---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | awdur |
Blodeuodd | 1971 |
Athro ac awdur o Gymro oedd Ifor Wyn Williams (31 Awst 1923 – 1999).
Magwyd Ifor ym Mangor a mynychodd ysgolion Hirael a Friars cyn hyfforddi yn y Coleg Normal. Roedd yn filwr am gyfnod yn yr Ail Ryfel Byd.
Bu yn brifathro yn Rhosgadfan, Conwy a Llanfairpwll.
Enillodd wobr Nofel Antur yr Eisteddfod yn 1966. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971 gyda'r nofel Gwres o'r Gorllewin. Ysgrifennodd ddramâu, pantomeim a chyfresi ar gyfer radio a theledu yn cynnwys Lleifior, Cysgodion Gdansk a Barbarossan, a 14 o nofelau.