Boris Johnson AS | |
---|---|
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig | |
Yn ei swydd 24 Gorffennaf 2019 – 6 Medi 2022 | |
Teyrn | Elisabeth II |
Dirprwy | Dominic Raab |
Rhagflaenwyd gan | Theresa May |
Dilynwyd gan | Liz Truss |
Arweinydd y Blaid Geidwadol | |
Yn ei swydd 23 Gorffennaf 2019 – 5 Medi 2022 | |
Rhagflaenwyd gan | Theresa May |
Dilynwyd gan | Liz Truss |
Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad | |
Yn ei swydd 13 Gorffennaf 2016 – 9 Gorffennaf 2018 | |
Prif Weinidog | Theresa May |
Rhagflaenwyd gan | Philip Hammond |
Dilynwyd gan | Jeremy Hunt |
Aelod Seneddol dros Uxbridge a De Ruislip | |
Yn ei swydd 7 Mai 2015 – 12 Mehefin 2023 | |
Rhagflaenwyd gan | John Randall |
Mwyafrif | 10,695 (23.9%) |
Maer Llundain | |
Yn ei swydd 4 Mai 2008 – 9 Mai 2016 | |
Dirprwy | Richard Barnes Victoria Borwick Roger Evans |
Rhagflaenwyd gan | Ken Livingstone |
Dilynwyd gan | Sadiq Khan |
Aelod Seneddol dros Henley | |
Yn ei swydd 9 Mehefin 2001 – 4 Mehefin 2008 | |
Rhagflaenwyd gan | Michael Heseltine |
Dilynwyd gan | John Howell |
Manylion personol | |
Ganwyd | Alexander Boris de Pfeffel Johnson 19 Mehefin 1964 Manhattan, Dinas Efrog Newydd, Unol Daleithiau |
Plaid wleidyddol | Ceidwadwyr |
Priod | Allegra Mostyn-Owen (1987–1993) Marina Wheeler (1993–gwahanwyd 2018) Carrie Symonds (2021–presennol) |
Plant | 6 neu 7 |
Rhieni |
|
Perthnasau |
|
Alma mater | Coleg Balliol, Rhydychen |
Gwefan | Gwefan Ty'r Cyffredin |
Gwleidydd o Sais yw Alexander Boris de Pfeffel Johnson (ganwyd 19 Mehefin 1964). Roedd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ac arweinydd Y Blaid Geidwadol (DU) rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2022. Fe'i adnabyddir yn well fel Boris Johnson ac fel cymeriad lliwgar a gwahanol i'r rhan fwyaf o wleidyddion. Mae'n gyn Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig a newyddiadurwr. Mae'n dweud ei farn, doed a ddelo, ac yn berson dadleuol a charismatig sydd wedi cyffesu iddo ef ei hun, yn y gorffennol, smocio canabis; cred y dylid cyfreithloni'r cyffur ar gyfer defnydd meddygol.
Ganwyd Boris Johnson yn Manhattan, Efrog Newydd, yn fab i'r gwleidydd Ceidwadol Stanley Johnson a chofrestwryd ef gyda phasport deuol (UDA a DU). Ar y pryd roedd ei dad yn astudio economeg ym Mhrifysgol Columbia. Roedd tad Stanley (Ali Kemal) yn newyddiadurwr o Dwrci. Roedd ei fam o waed cymysg: Saesnig, Rwsieg, Iddewig a Ffrengig. Brawd Jo Johnson a Rachel Johnson yw ef.
Mynychodd Johnson Ysgol Ewropead, Brwsel, Gwlad Belg; Ysgol Ashdown House, Sussex, a Choleg Eton, Windsor. Darllenodd y Clasuron yng Ngholeg Balliol, Rhydychen a bu'n Llywydd Undeb Rhydychen, y gymdeithas drafod uchel ael.
Mae Johnson wedi gweithio fel newyddiadur i sawl cyhoeddiad, cyn ac yn ystod ei amser fel gwleidydd. Dechreuodd ei yrfa gyda'r Times, cyn cael ei ddiswyddo am ei fod wedi ffugio dyfyniad. Symudodd wedyn i'r Telegraph, lle gweithiodd fel colofnydd gwleidyddol. Ymysg ei waith oedd darn golygyddol ar ôl i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog heb etholiad cyffredinol, yn cwyno am ddiffyg cyfreithlondeb democrataidd ac yn galw am etholiad cyffredinol ar unwaith. Gweithiodd hefyd fel golygydd i'r Spectator. Yn y swydd hwnnw, creodd ddadl enwog pan ganiataodd gyhoeddu darn a gyhuddodd bobl Lerpwl o "wallowing in victim status" ar ôl trychineb Hillsborough a marwolaeth Ken Bigley, ac ailadroddodd honiadau'r Sun bod ymddygiad cefnogwyr Lerpwl wedi cyfrannu at y trychineb. Gorfodwyd ef gan Michael Howard, arweinydd y blaid Ceidwadwyr ar y pryd, i deithio i Lerpwl er mwyn ymddiheuro am yr erthygl.
Methodd ag ennill sedd De Clwyd yn etholiad cyffredinol 1997.
Bu'n olygydd y Spectator rhwng 1999 a Rhagfyr 2005. Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros etholaeth Henley yn Swydd Rydychen yn 2001, o dan Michael Howard a David Cameron, ac ymunodd â Chabined yr Wrthblaid fel Gweinidog dros Ddiwylliant, y Diwydiant Creadigol ac yna Addysg Uwch.
Cafodd ei ethol yn Faer Llundain ar 2 Mai 2008 wedi iddo drechu cynrychiolydd y Blaid Lafur, Ken Livingstone; ymddiswyddodd ar unwaith fel Aelod Seneddol. Ar unwaith, aeth ati i wahardd alcohol o fannau cyhoeddus, a chwblhaodd gynllun oedd wedi'i ddechrau gan Livingstone i greu rhwydwaith o feics i'w llogi, a alwyd yn "Boris Bikes" yn anffurfiol. Enillodd ail dymor o bedair blynedd fel Maer yn 2012, gan drechu Livingstone eilwaith; yn ystod yr ail dymor, cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 2012. Ni chystadleuodd y drydedd waith; yn hytrach cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Uxbridge a De Ruislip yn Etholiad cyffredinol 2015, a gadawodd ei waith fel Maer.
Etholwyd Johnson yn arweinydd y blaid Geidwadol ar 23 Gorffennaf 2019. Y diwrnod canlynol, ymddiswyddodd Theresa May fel Prif Weinidog. Dywedodd Johnson y byddai’n sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref 2019, hyd yn oed pe na bai cytundeb yn cael ei wneud. Ym mis Medi 2019 ymddiswyddodd ei frawd Jo Johnson o’r llywodraeth a chyhoeddi y byddai’n camu i lawr fel AS oherwydd y gwrthdaro rhwng buddiannau teuluol a gwleidyddol.
Ar ôl yr Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019, roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o 80 sedd yn y Senedd San Steffan. Ar 31 Ionawr 2020 gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ac yn cychwyn y Cyfnod Pontio. Bu nifer o sgandalau yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog, gan gynnwys "Partygate", a ddatgelwyd gan y newyddiadurwr Cymreig Paul Brand.
Yn y diwedd collodd Johnson hyder y Blaid Geidwadol ym mis Gorffennaf 2022 a chafodd ei orfodi i ymddiswyddo. Dywedodd Mark Drakeford: "I’m pleased the prime minister has now done the right thing and agreed to resign. All four nations need a stable UK government. The way to achieve that is by a general election so the decision about the next prime minister is made by the people and not by the narrow membership of the Conservative party." Ymddiswyddodd Johnson fel arweinydd y blaid Geidwadol ond gwrthododd ymddiswyddo fel prif weinidog tan ar ôl cynhadledd y blaid. Ar 8 Gorffennaf, dywedodd yr Aelod Seneddol Cymreig Liz Saville Roberts y dylid canslo gwyliau'r haf yn San Steffan er mwyn “cadw sgwatiwr Prif Weinidog yn onest”.
Ym mis Mehefin 2023, yn dilyn beirniadaeth o’i restr anrhydeddau ymddiswyddiad ac ar ôl gweld canfyddiadau adroddiad ar ei ymddygiad gan bwyllgor o Dŷ’r Cyffredin, ymddiswyddodd Johnson fel aelod seneddol.
Rhagflaenydd: Frank Johnson |
Golygydd The Spectator 1999–2005 |
Olynydd: Matthew d'Ancona |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Michael Heseltine |
Aelod Seneddol dros Henley 2001–2008 |
Olynydd: John Howell |
Rhagflaenydd: John Randall |
Aelod Seneddol dros Uxbridge a De Ruislip 2015–2023 |
Olynydd: gwag |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Ken Livingstone |
Maer Llundain 4 Mai 2008 – 8 Mai 2016 |
Olynydd: Sadiq Khan |
Rhagflaenydd: Theresa May |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 24 Gorffennaf 2019 – 6 Medi 2022 |
Olynydd: Liz Truss |
|